Sut i baratoi ar gyfer ymosodiadau terfysgol
Cyngor gan y Groes Goch Brydeinig ar sut i baratoi ar gyfer ymosodiadau terfysgol.
Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).
Mae ymosodiadau terfysgol yn digwydd heb rybudd. Er mwyn cael gwybod y newyddion diweddaraf, dylech gadw llygad ar lefelau bygythiad terfysgol y Llywodraeth.
Os ydych yn amau bod unrhyw weithred derfysgol, dylech ddilyn cyngor Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu: Rhedwch, Cuddiwch, Dywedwch.
Dylech chi hefyd gymryd camau cyn, yn ystod ac ar ôl ymosodiad:
Cyn ymosodiad terfysgol
- Byddwch yn wyliadwrus. Bydd ymosodiadau terfysgol yn digwydd fel arfer mewn mannau cyhoeddus. Cadwch eich llygaid ar agor am ymddygiad, pecynnau neu gerbydau amheus.
- Os oes gennych unrhyw bryderon neu amheuon, dywedwch wrth yr heddlu. Gallwch ffonio llinell gyfrinachol gwrthderfysgaeth yr Heddlu ar 0800 789 321.
- Pan fyddwch mewn adeiladau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwnewch yn siŵr y gwyddoch lle mae'r allanfeydd argyfwng.
Yn ystod digwyddiad
- Dewch o hyd i'r ffordd fwyaf diogel o adael yr ardal. Symudwch mor gyflym ac mor dawel ag y gallwch.
- Os bydd tân, dylech aros yn isel at y llawr ac ymadael cyn gynted â phosibl. Gorchuddiwch eich trwyn a'ch ceg â chadach gwlyb os gallwch wneud hynny. Os yw'r drws yn boeth wrth gyffwrdd ag ef, peidiwch â'i agor.
- Os bydd ffrwydrad y tu allan i adeilad, arhoswch y tu mewn. Cadwch draw oddi wrth lifftiau, y tu allan i'r drysau a ffenestri rhag ofn bod bom arall gerllaw.
- Os gwelsoch y ffrwydrad neu unrhyw ymddygiad amheus, dywedwch wrth yr heddlu.
Ar ôl y digwyddiad
- Helpwch bobl eraill gyda chymorth cyntaf os yw'n ddiogel gwneud hynny.
- Dywedwch wrth yr heddlu os gwelsoch unrhyw beth a allai fod yn ddefnyddiol.
- Os ydych chi'n pryderu am rywun annwyl, cysylltwch â'r heddlu.
- Gallech fod yn dioddef o sioc ond heb sylweddoli hynny. Ewch i weld meddyg cyn gynted ag y bo modd.
Rhagor o help a chyngor
- Gweler ein hadnodd addysgu ar sut i gefnogi plant a phobl ifanc y newyddion am ymosodiadau terfysgol yn effeithio arnynt.
- Dysgwch gymorth cyntaf fel y gallwch helpu i ddelio ag argyfyngau megis strôc, tagu a llosgiadau.
- Mynnwch gyngor ar sut i ddarparu cymorth emosiynol mewn argyfwng a helpu pobl mewn trallod.
- Mae ein hadnodd argyfwng ar gyfer athrawonyn dangos sut y gall athrawon helpu pobl ifanc sydd mewn trallod.
Ynglŷn ag interniaethau
Menyw yn cael cefnogaeth gwirfoddolwr y Groes Goch gyda phontio cartref i gartref
Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact us page.