Cymorth ymarferol
Rydyn ni’n dosbarthu ac yn cefnogi ymatebwyr eraill i ddosbarthu eitemau ymarferol fel dŵr, tortshis, lluniaeth a blancedi yn ystod argyfyngau.
Cymorth ymarferol y gallwn ei ddarparu mewn argyfwng
- diodydd poeth a swm cyfyngedig o fwyd lle mae angen dŵr poeth
- dosbarthu bwyd oer wedi'i selio (wedi'i brynu gan fudiadau partner)
- dŵr yfed, dŵr poeth a lluniaeth
- tortshis a blancedi
- mae gan y rhan fwyaf o'n cerbydau hanfodion babanod fel teganau, tedis a detholiad bach o gewynnau
-
Cerbydau
Mae gennym fflyd o gerbydau 4x4 yn barod i fynd i’r afael â’r amodau anoddaf. Rydyn ni hefyd yn gallu defnyddio cerbydau cyfathrebu sydd â'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae’r defnydd o gerbydau yn dibynnu ar y digwyddiad. -
Canolfannau gorffwys
Rydyn ni’n gweithio mewn canolfannau gorffwys ochr yn ochr â’n partneriaid i gefnogi pobl sydd wedi cael eu gwacáu neu eu dadleoli yn ystod ac ar ôl argyfwng. -
Adnoddau ychwanegol
Mae ein hamrywiaeth o bartneriaethau corfforaethol yn rhoi mynediad i ni at adnoddau i helpu unigolion a chymunedau yn ystod ac ar ôl argyfwng. -
Cymorth sy’n seiliedig ar arian parod
Yn dibynnu ar yr anghenion, gallwn ddarparu cymorth sy’n seiliedig ar arian parod i bobl mewn argyfwng. Gellir darparu'r cymorth sy'n seiliedig ar arian parod mewn munudau mewn sefyllfaoedd brys.
Drwy ddefnyddio ein profiad a'n seilwaith presennol rydyn ni hefyd yn cefnogi’r broses o ddosbarthu cronfeydd partneriaethau. Os hoffech holi am weithio mewn partneriaeth â ni fel hyn, cysylltwch â CRT@redcross.org.uk.
Cymorth ymarferol ar waith
Gallwn ddarparu cymorth ymarferol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys llifogydd, tanau, ymosodiadau terfysgol, achosion o fasnachu pobl, argyfyngau iechyd, tarfu ar gyfleustodau ac argyfyngau trafnidiaeth.
Boed yn dân mewn cartref teuluol neu’n argyfwng cenedlaethol ar raddfa fawr, gallwch gysylltu â ni am gymorth 24/7.
Unrhyw gwestiynau?
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cymorth y gallwn ei gynnig yn ystod argyfyngau gallwch e-bostio'r Tîm Ymateb mewn Argyfwng ar CRT@redcross.org.uk.
Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact us page.