Sut gallwn gefnogi ein partneriaid yn ystod argyfyngau yn y DU

Fel rhan o fudiad dyngarol mwyaf y byd, rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth a’n profiad i gefnogi partneriaid i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu mewn argyfwng.

Sut gallwn gefnogi ein partneriaid yn ystod argyfyngau yn y DU

Fel rhan o fudiad dyngarol mwyaf y byd, rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth a’n profiad i gefnogi partneriaid i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu mewn argyfwng.

Rhoi ein cymorth ar waith

Gallwch ddisgwyl gweld y Groes Goch Brydeinig mewn digwyddiadau sy'n cefnogi pobl mewn argyfwng: llifogydd, tanau, ymosodiadau terfysgol, achosion o fasnachu pobl, argyfyngau iechyd, tarfu ar gyfleustodau ac argyfyngau trafnidiaeth.
Boed yn dân mewn cartref teuluol neu’n argyfwng cenedlaethol ar raddfa fawr, gallwch gysylltu â ni am gymorth 24/7.

Sut gallwyn helpu

Red Cross worker carries box of supplies from emergency response truck.

Lle na allwn helpu:

  • Ni fyddwn yn darparu gofal personol, gwarchod plant na gofal anifeiliaid anwes
  • Ni fyddwn yn gweithredu fel swyddog cymorth cyntaf dynodedig
  • Ni fyddwn yn darparu arlwyo mewn argyfwng (gan gynnwys danfon bwyd poeth neu dalu am unrhyw eitemau bwyd)
  • Fel arfer ni fyddwn yn cefnogi’r broses o gasglu, didoli na dosbarthu nwyddau a gyfrannwyd 

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych bartneriaeth gyda ni’n barod ac angen ein cefnogaeth, cyfeiriwch at y cytundeb sydd yn ei le am fanylion cyswllt.
Os hoffech weithio mewn partneriaeth â ni neu gael mwy o wybodaeth, gallwch e-bostio ein Tîm Ymateb mewn Argyfwng cyfeillgar yn CRT@redcross.org.uk.

Woman typing on laptop.

Mae eich adborth yn bwysig i ni

Cymerwch eiliad i rannu eich barn ar y gwe-dudalennau hyn drwy lenwi ein ffurflen adborth fer.