Pam nad ydym yn anfon gwirfoddolwyr dramor
Darganfyddwch pam nad ydym yn anfon gwirfoddolwyr dramor ar ôl trychineb mawr.
Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English). Ar ôl trychinebau mawr, mae pobl yn aml eisiau gwirfoddoli yn yr ardaloedd hynny. Ond nid dyma'r ffordd orau o gael cymorth lle mae ei angen. Mae 190 o Gymdeithasau Cenedlaethol yn y Groes Goch Ryngwladol a Mudiad y Cilgant Coch. Mae'r Groes Goch Brydeinig yn un o'r rhain. Gall pob Cymdeithas Genedlaethol dynnu ar ei gorff ei hun o wirfoddolwyr, felly nid ydym yn anfon gwirfoddolwyr dramor.
Mae ein dull gweithredu yn arbed amser ac arian hollbwysig, gan fod gan wirfoddolwyr lleol y fantais o siarad yr iaith, adnabod yr ardal a deall y diwylliant.
Gallwch gefnogi gwaith rheng flaen hollbwysig trwy wneud rhodd.
Rhai cyfleoedd i wirfoddoli dramor
Yr unig adeg y byddwn ni’n anfon gwirfoddolwyr i wledydd Ewropeaidd eraill yw trwy ein rhaglen gwirfoddoli ryngwladol i bobl ifainc sydd ar gyfer pobl ifanc 18 i 30 oed.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli
Os hoffech chi wirfoddoli dramor ewch i wefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer gwirfoddoli, sydd â manylion sefydliadau sy'n anfon gwirfoddolwyr dramor.
Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â Chymdeithas y Groes Goch neu’r Cilgant Coch yn y wlad sydd o ddiddordeb i chi. Mae’n bosibl gweld eu manylion cyswllt ar wefan yr IFRC.
Anfon staff cyflogedig dramor
Rydym yn ddarparwr blaenllaw o staff arbenigol dramor i:
- Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau'r Groes Goch a'r Cilgant Coch (IFRC)
- Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC)
Rydym hefyd yn darparu staff cyflogedig gyda sgiliau arbenigol i gefnogi prosiectau rhyngwladol mewn partneriaeth â Chymdeithasau Cenedlaethol eraill. Dysgwch fwy am sut i weithio i ni dramor.
Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact us page.