Cael help gartref: dewch o hyd i wasanaethau gofal cartref yn eich ardal chi

Sicrhewch gymorth gyda thasgau dyddiol, cludiant ac adferiad ar ôl aros yn yr ysbyty. Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol nawr.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Weithiau mae angen help ar bobl yn y cartref. Gallai hyn fod ar ôl arhosiad yn yr ysbyty neu ar adegau eraill.

Gallwn gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol am ddim yn eich cartref a'ch cymuned leol.

Rydym yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â’r GIG, gofal cymdeithasol, a’r sector gwirfoddol a chymunedol.

Dod o hyd i gymorth yn agos atoch chi

Mae’r cymorth sydd ar gael yn amrywio ar draws y DU. Darganfyddwch a allwch chi gael mynediad at ein cymorth yn eich ardal chi.

Cysylltwch ag un o'n timau:


De-ddwyrain Lloegr

HealthandCareSouthEastAdmin@redcross.org.uk
01622 690011

De Lloegr

HealthandCareSouthciAdmin@redcross.org.uk
01235 552 665

Gogledd Lloegr ac Ynys Manaw

HealthAndCareNorthIomAdmin@redcross.org.uk
01482 499830

Cymru

Cardiff@redcross.org.uk
02920 695740

Llundain

London_enquiries@redcross.org.uk
0208 944 0246 

Yr Alban

HCScotlandBST@redcross.org.uk

Canolbarth Lloegr

AdminCentral@redcross.org.uk
0345 054 7171

Gogledd Iwerddon

Reception.Belfast@redcross.org.uk
028 9073 5350

Sut rydym yn gweithio

Gall pobl sydd angen ein gwasanaethau iechyd a gofal gael mynediad uniongyrchol at rai ohonynt. I eraill, mae angen i weithiwr iechyd neu ofal proffesiynol eich atgyfeirio. Yn aml, byddant yn gweithio mewn ysbyty GIG lle mae gennym wasanaeth sy’n cefnogi eu cleifion.

Os na allwn eich cefnogi, fe wnawn ein gorau i roi manylion sefydliadau eraill a allai fod o gymorth i chi.

A photo of a Red Cross staff member, wearing a branded red coat, holding the hand of a woman in the hallway of her home.

Gwasanaethau cymorth y gallwn eu cynnig

Yn ddibynnol ar argaeledd, gallai ein gwasanaethau nodweddiadol gynnwys:

  • cludiant adref o'r ysbyty
  • help i'ch cysylltu â gweithgareddau yn eich cymuned
  • help i ailadeiladu eich hyder
  • cludiant i'r ysbyty ar gyfer gofal hanfodol
  • help gyda thasgau bob dydd (er enghraifft, casglu presgripsiynau neu siopa)
  • hyd at 12 wythnos o gymorth.

 

Helpwch i lunio ein gwasanaethau gofal iechyd

Os ydych wedi derbyn cymorth gennym yn ddiweddar, byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth.

Rhowch eich adborth.