Sut rydym yn ymdrin â chwynion ac adborth
Deall ein gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion ac adborth am ein gwaith, gwasanaethau, a'r ffyrdd yr ydym yn codi ac yn gwario arian.
Rydym yn croesawu eich adborth gan ei fod yn ein helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda a lle gallwn ddysgu a gwella. Os byddwn yn methu â chyrraedd ein safonau uchel ein hunain, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddatrys y mater lle bo modd i'w atal rhag digwydd eto.
Y drefn gwyno
- Cysylltu
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen adborth neu gysylltu â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu'n ysgrifenedig gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Mae'n well codi cwyn cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad y mae'n ymwneud ag ef ac yn ddelfrydol o fewn tri mis fel y gallwn ymchwilio'n brydlon.
Gallwch rannu canmoliaeth neu sylwadau gan ddefnyddio'r un manylion cyswllt.
- Ein hymateb
Ein nod yw cydnabod derbyn eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith (os rydych wedi rhannu eich gwybodaeth gyswllt â ni). Fel arfer, bydd ein hymateb llawn gyda chi o fewn 10 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, os yw eich cwyn yn gymhleth, gall gymryd mwy o amser i ymchwilio iddi. Byddwn yn eich diweddaru os yw hynny'n digwydd.
- Gwneud apêl
Os ydych chi'n anhapus â'n hymateb, rhowch wybod i ni. Byddwn yn gofyn i aelod annibynnol o'n tîm i adolygu'r ymchwiliad a gynhaliwyd a'r ateb a roddwyd i chi.
- Eich hawliau os ydych yn anhapus
Os ydych yn dal yn anhapus gyda'n penderfyniad terfynol, gallwch gael adolygiad allanol o'ch cwyn trwy gysylltu ag un o'r sefydliadau a restrir isod.
Llwythwch gopi o’r weithdrefn gwyno (PDF) i lawr.
Adborth codi arian
Os yw'ch adborth yn ymwneud â'n gweithgaredd codi arian, mae ein tîm Gofal Cefnogwyr yma i helpu.
Dydd Llun i ddydd Gwener 10am – 4pm
Ffôn: 0300 456 11 55
E-bost: supportercare@redcross.org.uk
Adborth cyffredinol
Os yw eich adborth yn ymwneud ag unrhyw un arall o’n gwasanaethau neu weithgareddau, cysylltwch â ni drwy:
Ffôn: 0344 871 11 11
(neu + 44 207 138 7900 o'r tu allan i'r DU).
E-bost: ComplaintsComplimentsComments@redcross.org.uk
Post: 44 Moorfields, Llundain, EC2Y 9AL
Ein hymrwymiad i chi
Os oes gennych gŵyn neu bryder am ein pobl, y gwaith a wnawn neu’r ffordd yr ydym yn codi neu’n gwario arian, byddwn yn:
- sicrhau bod ein proses gwyno yn deg ac yn glir.
- cynnig ffordd sicr a diogel o godi cwyn heb ofni niwed, sgil-effeithiau, neu ddial.
- cymryd eich cwyn o ddifrif ac ymchwilio iddi mor drylwyr a chyflym â phosibl.
- anelu at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ystod yr ymchwiliad.
- sicrhau bod eich cwyn yn cael ei datrys, lle bynnag y bo modd
- eich trin â chwrteisi a pharch.
- cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau diogelwch plant o dan 18 oed neu oedolion sy’n wynebu risg, pan fo cwyn yn ymwneud â’r unigolion hyn. Mae hyn yn unol â’n polisi diogelu.
- cynnal cyfrinachedd eich gwybodaeth bersonol a sensitif yn unol â’n cyfrifoldebau diogelu data. Dim ond y rhai sy'n ymwneud ag ymdrin â'ch mater fydd yn cael gwybod amdano.
- ystyried yr holl adborth fel cyfle i ddysgu a gweithredu i sicrhau nad yw camgymeriadau yn cael eu hailadrodd. Os ydych wedi cysylltu â ni'n ddienw, byddwn yn dal i ymchwilio i'r mater yr ydych wedi rhoi gwybod amdano.
Penderfynu a ydym yn ymchwilio i gŵyn
Er ein bod yn ddiolchgar am adborth, mae rhai amgylchiadau lle gallwn ddewis peidio ag ymchwilio i gŵyn. Er enghraifft, efallai na fyddwn yn ymchwilio os yw cwyn yn:
- defnyddio iaith sy'n fygythiol, sarhaus neu fel arall yn dramgwyddus
- ymddengys ei fod yn targedu aelod o staff neu wirfoddolwr yn annheg
- ymwneud â rhywbeth nad ydym ynghlwm ag ef
- wedi derbyn sylw ac ymateb eisoes yn unol â'r drefn a nodir ar y dudalen hon
- ymwneud â rhywbeth a ddigwyddodd yn rhy bell yn ôl, sy'n golygu na allwn gael gafael ar y wybodaeth y byddai ei hangen arnom i ymchwilio i'r mater.
Sylwch os yw eich cwyn yn ymwneud â gweithred neu ddiffyg gweithredu Cymdeithas Genedlaethol arall y Groes Goch neu'r Cilgant Coch neu un o'n partneriaid, byddwn yn cyfeirio'r mater atynt fel y bo'n briodol. Dim ond ar ôl cael eich caniatâd y byddwn yn rhannu eich data personol â nhw.
Gyda phwy y dylech gysylltu os ydych yn anhapus gyda'n penderfyniad
Mae gennych yr hawl i gysylltu â'r sefydliadau hyn os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ydym wedi delio â'ch cwyn.
Fel arfer, bydd y sefydliadau hyn yn mynd i'r afael ag achos ar ôl rhoi cyfle i ni ymateb neu ddarparu rhagor o wybodaeth.
Cwynion cyffredinol
Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
Blwch Post 211
Bootle
L20 7YX
0300 066 9197
whistleblowing@charitycommission.gov.uk
Gwefan y Comisiwn Elusennau
Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban (OSCR)
2il Lawr
Quadrant House
9 Riverside Drive
Dundee
DD1 4NY
01382 220446
Gwefan OSCR
Cwynion codi arian
Os yw eich cwyn yn ymwneud â chodi arian, gall y Rheoleiddiwr Codi Arian ymchwilio. Mae angen i chi gysylltu â nhw o fewn dau fis i dderbyn ymateb gennym ni.
Rheoleiddiwr Codi Arian
Eagle House
167 City Road
London
EC1V 1AW
0300 999 3407
complaints@fundraisingregulator.org.uk
Gwefan y Rheoleiddiwr Codi Arian
Cwynion data personol
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r defnydd o’ch data personol yna gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
0303 123 1113
casework@ico.org.uk
Gwefan yr ICO
Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact us page.