Llogi comôd
Gallwch logi comôd, cadair toiled neu gymhorthion toiled gan y Groes Goch i'w defnyddio am gyfnod byr.
Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).
Gallwn ni ddarparu:
- Comôd
- sedd toiled
- ffrâm toiled.
Gallwch hefyd brynu'r rhain oddi wrthym.
Find your local toileting aids service
Sut mae'n gweithio
Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth lleol a chysylltu â nhw'n uniongyrchol.
Gallwch wedyn:
- ymweld â'ch gwasanaeth lleol i gasglu eich comôd neu gymhorthion toiled
- trefnu dosbarthu i'ch cartref (am ffi ychwanegol).
Dewch â rhyw ddull adnabod gyda llun arno, e.e. pasbort neu drwydded yrru, a thystiolaeth o'ch cyfeiriad.
Faint mae'n ei gostio
Rydym yn codi ffi fach am bot y comôd gan nad yw'n bosibl ei ailddefnyddio. Byddwn yn gofyn am gyfraniad ar gyfer offer eraill.
Dychwelyd eich comôd
Mae'n bwysig dychwelyd eich comôd neu gymhorthion toiled ar y dyddiad y cytunwyd arno. Nid oes angen ichi ddychwelyd pot y comôd.
Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol i drefnu dychwelyd eich comôd neu gymhorthion toiled.