Paratoi pecyn argyfwng
Byddwch yn barod i ymdopi ag argyfwng.
Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).
Mae bod â'r offer cywir yn hanfodol mewn argyfwng.
Dyma beth ddylai fod yn barod gennych yn eich cartref, wrth symud o gwmpas ac yn eich car.
Pecyn cartref mewn argyfwng
- Rhestr o rifau cyswllt mewn argyfwng. Dylai hyn fod ar gopi papur, rhag ofn y bydd eich ffôn symudol yn colli pŵer.
- Fflachlamp batri a batris sbâr, neu fflachlamp y gallwch ei weindio.
- Radio batri a batris sbâr, neu radio y gallwch ei weindio.
- Pecyn cymorth cyntaf a meddyginiaeth hanfodol.
- Cyflenwad tridiau o ddŵr potel a bwyd parod i'w fwyta na fydd yn pydru.
- Copïau o ddogfennau pwysig, megis polisïau yswiriant a thystysgrifau geni. Cadwch y rhain mewn bag diddos.
- Pensil, papur, cyllell boced a chwiban.
- Allweddi sbâr i'ch cartref a i'ch car.
- Sbectol neu lensys cyffwrdd sbâr.
- Cyflenwadau anifail anwes a babanod os bydd angen.
Pecyn brys ar gyfer symud o gwmpas
- Gwiriwch ragolygon y tywydd a phaciwch ddillad addas.
- Bwyd sy'n barod i'w fwyta, diod gynnes mewn fflasg a dŵr potel.
- Ffôn symudol a dyfais gwefru.
- Unrhyw feddyginiaeth hanfodol.
- Sbectol neu lensys cyffwrdd sbâr.
- Cardiau credyd ac arian parod.
- Rhestr o rifau cyswllt mewn argyfwng. Dylai hon fod ar gopi papur, rhag ofn y bydd eich ffôn symudol yn colli pŵer.
- Cyflenwadau anifail anwes a babanod os bydd angen.
Pecyn argyfwng mewn car
- Sgrafell iâ a hylif clirio iâ.
- Rhaw eira.
- Map rhag ofn bod angen i chi ffeindio’ch ffordd o gwmpas gwyriadau.
- Blanced a dillad cynnes.
- Pecyn cymorth cyntaf.
- Fflachlamp batri a batris sbâr, neu fflachlamp y gallwch ei weindio.
- Radio batri a batris sbâr, neu radio y gallwch ei weindio.
- Gwifrau cychwyn car.
Mwy o help a chyngor
- Dim pecyn cymorth cyntaf? Dim problem. Darllenwch ein canllaw ar sut y gall eitemau bob dydd helpu mewn argyfwng.
- Dysgwch gymorth cyntaf fel y gallwch helpu i ddelio ag argyfyngau megis strôc, tagu a llosgiadau.
- Cael cyngor ar sut i ddarparu cymorth emosiynol mewn argyfwng ac i helpu pobl mewn trallod.
- Mae ein hadnodd argyfwng ar gyfer athrawon yn dangos sut y gall athrawon helpu pobl ifainc mewn trallod.
Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact us page.