Sut i baratoi ar gyfer llifogydd

Cyngor gan y Groes Goch Brydeinig ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Mae miliynau o bobl yn y DU yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd lle y mae perygl o lifogydd.

Cymerwch y camau hyn cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd i helpu i'ch cadw chi a'ch teulu yn ddiogel.

Cyn llifogydd

  • Gwiriwch am rybuddion llifogydd lleol. Gallwch gael diweddariadau o newyddion ar y teledu ac ar radio lleol. Mae Gov.uk hefyd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd.
  • Os bydd perygl o lifogydd, rhowch wybod i'ch cymdogion. Dywedwch hefyd wrth bobl hŷn a'r rhai sy'n agored i niwed sy'n byw gerllaw.
  • Paratowch becyn argyfwng.
  • Pan fydd llifogydd, bydd galw mawr am fagiau tywod a thywod oddi wrth y masnachwyr adeiladu. Gellir eu defnyddio fel rhwystr i ddargyfeirio dŵr ac atal neu leihau difrod llifddwr (dŵr llifogydd) llifogydd. Prynwch dywod a bagiau tywod ymlaen llaw.
  • Symudwch gerbydau i dir uwch fel na chânt eu dal mewn llifddwr sy’n codi.
  • Tynnwch ffotograffau y tu mewn i'ch cartref. Gall hyn helpu gyda hawliadau yswiriant.
  • Diffoddwch y prif gyflenwad pŵer cyn i chi adael. Gallwch gael eich lladd gan drydan mewn llifogydd os gadewir y pŵer ymlaen.
  • Rhowch fagiau tywod mewn powlenni toiled i atal carthion rhag llifo’n ôl.
  • Caewch a chlowch ddrysau a ffenestri. Bydd hyn yn amddiffyn eich eiddo, ac mae’n bosibl y bydd yn lleihau maint y llifddwr sy'n dod i mewn i'r adeilad.
  • Ewch â'ch holl anifeiliaid anwes gyda chi pan fyddwch yn gadael fel na chânt eu dal yn y dŵr sy'n codi.

Yn ystod llifogydd

  • Peidiwch â cherdded, nofio neu yrru drwy lifddwr. Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich bwrw chi drosodd. Gall dwy droedfedd o ddŵr beri i gar arnofio.
  • Peidiwch â cherdded ar amddiffynfeydd môr neu ar lannau afonydd.
  • Osgowch gysylltiad â llifddwr. Mae’n bosibl y bydd wedi'i halogi â charthion. Os byddwch chi'n dod i gysylltu ag ef , golchwch eich dwylo a'ch dillad yn drylwyr.
  • Peidiwch â gadael i'ch plant chwarae mewn llifddwr neu'n agos ato.
  • Oes angen i chi adael eich cartref a chithau heb unman i aros? Bydd eich cyngor lleol yn eich helpu.
  • I ddechrau, mae’n bosibl y cewch lety mewn lloches brys. Ond os na allwch ddychwelyd adref am gyfnod hir, gall eich cyngor eich helpu i ddod o hyd i rywbeth mwy addas.

Ar ôl llifogydd

  • Gwaredwch unrhyw fwyd y mae’n bosibl y buodd yn y llifddwr.
  • Berwch ddŵr tap hyd nes y datgenir bod cyflenwadau yn ddiogel.

Mae llifogydd yn brofiad sy'n peri straen. Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch GIG 111 gan ddeialu 111. Fe ddywedan nhw wrthych chi am y gwasanaethau cymorth mewn argyfwng.

Mwy o help a chyngor