Gwybodaeth ac arweiniad
Gallwn gyfeirio pobl at y gwasanaethau perthnasol a darparu gwybodaeth ac arweiniad i bobl mewn argyfwng.
Gwasanaethau gwybodaeth y gallwn eu darparu:
- Cyfeirio at wasanaethau a chymorth lleol a chenedlaethol perthnasol.
- Cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol eraill y Groes Goch Brydeinig gan gynnwys y Llinell Gymorth, gwasanaethau ffoaduriaid, llogi cadair olwyn, iechyd ac adfer cysylltiadau teuluol.
- Cynnig arweiniad i bobl sy’n cael eu heffeithio gan argyfyngau.
- Trosglwyddo gwybodaeth berthnasol o gategori 1 (y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, cyrff y GIG) a 2 ymatebwr (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, cwmnïau trafnidiaeth a chyfleustodau).
- Cynghori ar y camau nesaf.
- Cyfeirio cwsmeriaid newydd at y gofrestr gwasanaethau blaenoriaeth.
- Rhoi cyngor ar ofal anifeiliaid anwes.
Grymuso defnyddwyr gwasanaethau
Rydyn ni’n cyfeirio pobl at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn hytrach na'u cyfeirio'n uniongyrchol. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, fel y gallan nhw ddod o hyd i'r cymorth cywir.
Ein cymorth ar waith
Rydyn ni’n darparu gwybodaeth ac arweiniad i helpu pobl i adfer ar ôl argyfwng gan gynnwys llifogydd, tanau, ymosodiadau terfysgol, achosion o fasnachu pobl, argyfyngau iechyd, tarfu ar gyfleustodau ac argyfyngau trafnidiaeth.
Boed yn dân mewn cartref teuluol neu’n argyfwng cenedlaethol ar raddfa fawr, gallwch gysylltu â ni 24/7.
Unrhyw gwestiynau?
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cymorth y gallwn ei gynnig yn ystod argyfyngau gallwch e-bostio'r Tîm Ymateb mewn Argyfwng ar CRT@redcross.org.uk.
Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact us page.