Cymorth seicogymdeithasol
Mae ein gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi i gynnig gofal holistig, seiliedig ar drawma, sy’n canolbwyntio ar unigolion mewn sefyllfaoedd brys.
Cymorth i unigolion, teuluoedd a chymunedau
Mae cymorth seicogymdeithasol yn mynd i'r afael ag anghenion seicolegol a chymdeithasol unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae ein gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi yn Fframwaith Seicogymdeithasol CALMER, a ddatblygwyd gan y Groes Goch Brydeinig. Mae'n defnyddio proses chwe cham i helpu pobl i wella o drawma.
Rydyn ni’n helpu pobl sydd wedi bod drwy brofiadau trawmatig i deimlo'n ddiogel, i gael dewisiadau ac i ymddiried ynddon ni. Rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd i greu a chynnal perthnasoedd diogel ac iachaol.
Nod cymorth seicogymdeithasol yw lleihau niwed a thrallod pellach drwy hyrwyddo:
- agwedd dawel a meddylgar
- gwrando a pherthnasoedd ymddiriedus
- dealltwriaeth
- gwytnwch ac adferiad
Mae hefyd yn cefnogi ymatebwyr i reoli eu hanghenion emosiynol eu hunain, gan gynnwys straen ac wedi ymlâdd.
Cymorth emosiynol uniongyrchol
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn cynnig cymorth emosiynol uniongyrchol i bobl mewn argyfwng. Nid yw’r cymorth hwn yn cynnwys cwnsela na chymorth iechyd meddwl hirdymor, ond gall helpu pobl i ymdopi â’r sefyllfa bresennol a symud ymlaen. Gallwn hefyd gysylltu pobl ag adnoddau seicogymdeithasol eraill a all eu helpu i ddod drwy gyfnod anodd.
Nid yw ein cymorth emosiynol yn cymryd lle cwnsela neu therapi proffesiynol, ond gall fod yn gam cyntaf defnyddiol wrth ymdopi ag argyfwng.
Ei weld ar waith
Gall ein gwirfoddolwyr ddarparu cymorth emosiynol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys llifogydd, tanau, ymosodiadau terfysgol, achosion o fasnachu pobl, argyfyngau iechyd, tarfu ar gyfleustodau ac argyfyngau trafnidiaeth.
Boed yn dân mewn cartref teuluol neu’n argyfwng cenedlaethol ar raddfa fawr, gallwch gysylltu â ni am gymorth 24/7.
Unrhyw gwestiynau?
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cymorth seicogymdeithasol y gallwn ei gynnig yn ystod argyfyngau, gallwch e-bostio'r Tîm Ymateb mewn Argyfwng ar CRT@redcross.org.uk.
Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact us page.